


Grŵp?
Planhigion – llwyn.
Bythwyrdd neu Gollddail?
Bythwyrdd
A yw'n gynhenid i Brydain?
Nac ydi. Mae'n gynhenid i Asia.
Dail
Mae pob deilen yn wyrdd tywyll cwyraidd. Mae ansawdd y ddeilen yn helpu i gadw dŵr yn y ddeilen ei hun. Mae'r ddeilen yn eithaf hir gyda phen pigfain a gwaelod crwm. Mae'r wythïen sy'n rhedeg i lawr canol y ddeilen yn rhwydd i'w gweld. Nid yw'r dail yn wyrdd tywyll gloyw oddi tanynt, ond yn wyrdd goleuach.
Blodau?
Mae llu o flodau'n ymddangos ar y goeden tua mis Mai.
Gall y blodau fod yn lliwgar (coch, melyn, pinc, gwyn neu las) ac maent yn hardd iawn. Mae gwenyn yn hoff o gasglu neithdar ohonynt.
Peillio?
Gan bryfed.
Hadau / ffrwythau?
Mae'r blodau peilliedig yn cynhyrchu ffrwyth sy'n edrych ychydig yn debyg i goden bys. Erbyn diwedd yr Hydref, bydd y ‘codau’ hyn wedi troi'n frown a byddant yn llawn o hadau mân.
Gwasgaru hadau?
Gwynt neu ddŵr.
Beth sy'n eu bwyta nhw?
Nid yw llwyni rhododendon yn ddefnyddiol i anifeiliaid oherwydd bod eu dail a'u pren yn cynnwys 'gwenwyn' na allan nhw ei fwyta.