Skip to main content Skip to navigation
Cyngor Gwynedd Council
English
Modiwl Addysg Parc Glynllifon
Modiwl Addysg Parc Glynllifon

Coeden Gas gan Fwnci

Pinwydden Chile neu'r Goden Fwnci gan John Whitehead
Pinwydden Chile neu'r Goden Fwnci gan John Whitehead

Grŵp?
Planhigion – yn tyfu i fod yn goeden fawr.

Bythwyrdd neu Gollddail?
Bythwyrdd

A yw'n gynhenid i Brydain?
Nac ydi, mae'n dod o Dde America.  Mae'r cnau yn rhan bwysig o ddiet traddodiadol pobl y Pehuenche yn Ne America!

Dail
Mae siâp y ddeilen fel triongl byr gyda phigyn miniog.  Mae'r dail yn glòs iawn at ei gilydd ar eithafion y canghennau ac mewn patrwm taclus.

Blodau?
Nid oes ganddynt flodau go iawn.  Mae'r conau brown/gwyrdd i'w gweld ar y goeden ym mis Gorffennaf.  Mae conau gwryw a chonau benyw yn tyfu ar wahanol goed. 

Peillio?
Gan y gwynt

Hadau / ffrwythau?
Mae'r conau peilliedig yn datblygu ac yn tyfu i fod yn gonau hadau pigog.  Mae'r rhain yn cymryd dwy flynedd i aeddfedu ac i gynhyrchu cnau.  Mae'r cnau yn disgyn oddi ar y goeden yn ystod Mawrth ac Ebrill.

Gwasgaru hadau?
Pobl, adar, gwiwerod, llygod a llygod y gwair.

Beth sy'n eu bwyta nhw?
Nid yw'r rhan fwyaf o anifeiliaid yn bwyta dail y coed am eu bod yn wydn.  Bydd llygod, gwiwerod a moch daear yn bwyta'r hadau.


 

Gweithgaredd Cylchred Bywyd
Gweithgaredd Pethau Byw
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]