Skip to main content Skip to navigation
Cyngor Gwynedd Council
English
Modiwl Addysg Parc Glynllifon
Modiwl Addysg Parc Glynllifon

Castanwydden

Castanwydden
Castanwydden

Grŵp?
Planhigion – yn tyfu i fod yn goeden fawr.

Bythwyrdd neu Gollddail?
Collddail

A yw'n gynhenid i Brydain?
Nac ydi, mae'n gynhenid i Ogledd Groeg ac Albania.

Dail
Yn aml iawn mae 5 neu ragor o ddail ynghlwm i un coesyn.  Mae'r ddeilen yn culhau tua'r gwaelod gyda'r pen yn lletach ac yn fwy crwn gyda phigyn.  Mae'r dail braidd yn frau ac yn lliw gwyrdd canolig.  Mae'r dail gyda'r olaf i ymddangos yn ystod y gwanwyn a'r cyntaf i newid lliw a disgyn yn yr Hydref.

Blodau?
Pigau unionsyth o flodau gwyn i'w gweld ym mis Mai.  Mae blodau pinc ar rai mathau o goed Castanwydden.  O bellter, mae'r blodau'n edrych fel canhwyllau mawr sy'n rhoi i'r goeden un o'r enwau cyffredin arni "y goeden ganhwyllau".

Peillio?
Gan bryfed.

Hadau / ffrwythau?
Concyrs. Bydd y blodau benyw, ar ôl eu peillio, yn tyfu i fod yn ffrwyth pigog.  Y tu mewn i'r ffrwyth, mae un neu ragor o hadau, concyrs. Mae plisgyn y ffrwyth yn hollti yn yr hydref, pan mae'n aeddfed, i ryddhau'r concyrs brown sgleiniog ar lawr y goedwig.

Gwasgaru hadau?
Gan anifeiliaid fel bwyd.

Beth sy'n eu bwyta nhw?
Dail – Llawer o bryfed, yn enwedig lindys a llau'r coed.
Hadau – Llygod, gwiwerod.
Boncyff a changhennau – Mae rhai chwilod a'u cynrhon yn bwyta'r pren ac yn gwneud twnneli ynddo.  Mae'n bosib y caiff y rhain eu bwyta gan gnocellau'r coed.  and badger.

 

 

Gweithgaredd Cylchred Bywyd
Gweithgaredd Pethau Byw
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]