Skip to main content Skip to navigation
Cyngor Gwynedd Council
English
Modiwl Addysg Parc Glynllifon
Modiwl Addysg Parc Glynllifon

Celyn

Celyn
Celyn

Grŵp?
Planhigion – coeden fach sy'n tyfu'n aml fel llwyn.

Bythwyrdd neu Gollddail?
Bythwyrdd

A yw'n gynhenid i Brydain?
Ydi.

Dail
Mae siâp y ddeilen yn hawdd iawn i'w adnabod.  Mae pob deilen yn dywyll ac yn sgleinio ac mae'r ymylon yn plygu i fyny ac i lawr i ffurfio pigau miniog.

Blodau?
Mae blodau gwryw a benyw yn tyfu ar y goeden. Maent yn ymddangos tua mis Mai. 

Mae'r blodau gwryw yn ymddangos ar ochr uchaf y canghennau, a'r blodau benyw yn ymddangos o dan y canghennau.

Peillio?
Gan bryfed.

Hadau / ffrwythau?
Ar ôl peillio, mae'r blodau benyw yn datblygu i fod yn aeron coch, pob un yn cynnwys 4 o hadau.  Caiff brigau o gelyn eu casglu o'r goeden a'u rhoi yn y tŷ fel addurniadau Nadolig.

Gwasgaru hadau?
Gan adar ac anifeiliaid sy'n bwyta'r aeron.

Beth sy'n eu bwyta nhw?
Dail – Rhai pryfed arbennig sy'n gallu tyrchu i mewn i'r dail.
Aeron – Adar, yn enwedig bronfreithod a mwyeilch.  
Boncyff a changhennau – Mae rhai chwilod a'u cynrhon yn bwydo ar bren ac yn gwneud twnneli ynddo.


 


Sylwadau am y dudalen hon

Math o sylw:




Rhaid llenwi pob maes sydd wedi ei farcio â *




Gweithgaredd Cylchred Bywyd
Gweithgaredd Pethau Byw
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]