


Grŵp?
Planhigion – coeden fach sy'n tyfu'n aml fel llwyn.
Bythwyrdd neu Gollddail?
Bythwyrdd
A yw'n gynhenid i Brydain?
Ydi.
Dail
Mae siâp y ddeilen yn hawdd iawn i'w adnabod. Mae pob deilen yn dywyll ac yn sgleinio ac mae'r ymylon yn plygu i fyny ac i lawr i ffurfio pigau miniog.
Blodau?
Mae blodau gwryw a benyw yn tyfu ar y goeden. Maent yn ymddangos tua mis Mai.
Mae'r blodau gwryw yn ymddangos ar ochr uchaf y canghennau, a'r blodau benyw yn ymddangos o dan y canghennau.
Peillio?
Gan bryfed.
Hadau / ffrwythau?
Ar ôl peillio, mae'r blodau benyw yn datblygu i fod yn aeron coch, pob un yn cynnwys 4 o hadau. Caiff brigau o gelyn eu casglu o'r goeden a'u rhoi yn y tŷ fel addurniadau Nadolig.
Gwasgaru hadau?
Gan adar ac anifeiliaid sy'n bwyta'r aeron.
Beth sy'n eu bwyta nhw?
Dail – Rhai pryfed arbennig sy'n gallu tyrchu i mewn i'r dail.
Aeron – Adar, yn enwedig bronfreithod a mwyeilch.
Boncyff a changhennau – Mae rhai chwilod a'u cynrhon yn bwydo ar bren ac yn gwneud twnneli ynddo.