Skip to main content Skip to navigation
Cyngor Gwynedd Council
English
Modiwl Addysg Parc Glynllifon
Modiwl Addysg Parc Glynllifon

Teulu'r Coed Conwydd

Dail Conwydden
Dail Conwydden

Grŵp?
Planhigion – mae rhai ohonynt yn tyfu i fod yn goed mawr.

Bythwyrdd neu Gollddail?
Pob un, bron iawn, yn fythwyrdd.

A yw'n gynhenid i Brydain?
Mae rhai ohonynt yn gynhenid, ond nid yw hynny'n wir am y rhan fwyaf ohonynt.

Dail
Mae'r dail yn aml fel nodwyddau, fel y rhai a welwch chi ar goed Nadolig, ond gallant hefyd fod yn ‘gennog’ ac ar frigau tenau (e.e. y gedrwydden a'r gypreswydden).  Mae gan y rhan fwyaf o'r dail arogl ffres "pinwydden" ond mae rhai ohonynt yn arogli fel tanjerîn neu lemwn.

Blodau?
Nid oes ganddynt flodau mewn gwirionedd.  Mae conau gwryw a chonau benyw, sy'n eithaf bach ac yn wyrdd golau, i'w gweld ar y goeden tua Ebrill i Fai.  Tuedda'r conau gwryw i fod ychydig yn fwy na'r conau benyw.  Mae cymylau o baill melyn yn disgyn o'r conau gwryw aeddfed pan gaiff y canghennau eu hysgwyd ar ddiwrnodau sych a braf.

Peillio?
Gan y gwynt.

Hadau / ffrwythau?
Mae'r conau benyw bach yn datblygu i fod yn gonau hadau llawer mwy sy'n wyrdd neu'n frown.  Mae'r broses hon, yn aml iawn, yn cymryd mwy nag un flwyddyn.  Mae gan wahanol fathau o goed conwydd wahanol fathau o gonau hadau.

Gwasgaru hadau?
Pan mae'n aeddfed, mae'r côn hadau yn agor i ryddhau'r hadau.  Mae gan rai o'r hadau adenydd bach i'w helpu i deithio ar y gwynt.

Beth sy'n eu bwyta nhw?
Dail – Rhai pryfed sydd wedi ymaddasu'n arbennig ond nid oes llawer ohonynt e.e. llau'r coed.
Hadau –  Mae gwiwerod wrth eu boddau'n torri'r conau ar agor i fwyta'r hadau.  Mae adar fel y titw penddu hefyd yn gallu cael yr hadau allan o'r conau agored.
Boncyff a changhennau – Mae rhai chwilod a'u cynrhon yn bwyta'r pren ac yn gwneud twnneli ynddo.  Mae'n bosib y bydd cnocellau'r coed yn bwyta'r rhain.

 


 

Gweithgaredd Cylchred Bywyd
Gweithgaredd Pethau Byw
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]