Skip to main content Skip to navigation
Cyngor Gwynedd Council
English
Modiwl Addysg Parc Glynllifon
Modiwl Addysg Parc Glynllifon

Rhedyn

Rhedyn
Rhedyn

Grŵp?
Planhigion

Bythwyrdd neu Gollddail
Mae rhai yn gollddail a rhai yn fythwyrdd.

A ydynt yn gynhenid i Brydain?
Ydyn.

Dail
Mae coesau gyda dail hir a dail ifanc yn dod oddi ar eu hochrau yn ffurfio ffrond rhedyn.  Mae'r ffrondau, yn aml iawn, yn edrych yn “bluog”.

Blodau?
Mae rhedyn yn rhan o deulu o blanhigion nad oes ganddyn nhw flodau.

Peillio?
Oherwydd nad yw rhedyn yn cynhyrchu blodau, ni chânt eu peillio.

Hadau / Ffrwythau?
Nid oes hadau ond gellwch weld capsiwlau o sborau o dan y ffrondau ar ddiwedd yr haf.

Gwasgaru sborau?
Gan y gwynt.  Mae'r sborau yn fân fel llwch a chânt eu chwythu oddi wrth y rhiant-blanhigyn gan y gwynt i greu planhigion newydd.

Beth sy'n eu bwyta nhw?
Dail – rhai cynrhon a llau'r coed.

Gweithgaredd Cylchred Bywyd
Gweithgaredd Pethau Byw
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]