


Grŵp?
Planhigion
A yw'n gynhenid i Brydain?
Ydi
Dail
Mae dail hir a chul sy'n wyrdd tywyll ac ychydig yn dew yn dod o'r bwlb sydd o dan y ddaear.
Blodau?
Mae'n blodeuo ar ddechrau'r gwanwyn er mwyn gwneud yn fawr o'r heulwen cyn i'r coed ddeilio a chysgodi llawr y goedwig. Blodau glas hyfryd siâp clychau ar goesyn unionsyth. Arogl da iawn.
Peillio?
Gan bryfed.
Hadau / Ffrwythau?
Mae'r blodau, unwaith y byddent wedi'u peillio, yn tyfu i fod yn gapsiwl bach sy'n cynnwys llawer o hadau.
Gwasgaru hadau?
Gan anifeiliaid pan fo rhywbeth yn tarfu arnynt.
Beth sy'n eu bwyta nhw?
Dail – Malwod a llau'r coed.
Hadau – bach iawn.