


Ceir llawer o wahanol fathau o blanhigion yn tyfu ym Mharc Glynllifon megis coed, llwyni, blodau, gweiriau, mwsoglau a rhedynnau.
Gall planhigion wneud eu bwyd eu hunain drwy broses arbennig a elwir yn ffotosynthesis (mae hyn yn digwydd yn y ddeilen).
Fel popeth byw arall, mae planhigion yn atgenhedlu. Maent yn gwneud hyn drwy gynhyrchu hadau neu sborau sy'n tyfu i fod yn blanhigion newydd pan mae'r amser yn iawn.
Mae'r rhan fwyaf o blanhigion yn byd yn blodeuo.