Pryf Glas

Pryf Glas
Grŵp:
Pryfed
Ffeithiau ffynci:
- Mae gan lau'r coed 6 o goesau, dwy antena (teimlyddion) , ac mae adenydd gan rai ohonynt.
- Mae rhan o'u cegau fel gwelltyn sy'n gallu sugno sudd melys o blanhigion.
- Mae lleuen y coed yn cynhyrchu hylif melys o'r enw melwlith o fandyllau ar eu cefnau oherwydd eu bod yn sugno cymaint o sudd. Gall llawer o'r hylif hwn ddisgyn o goed gan beri i geir sydd wedi parcio oddi tanynt fynd yn ludiog ac yn fudr yn ystod yr haf!
- Nid yw pob lleuen y coed yn wyrdd! Maent yn rhan o deulu o'r enw llyslau; maent yn debyg i'w gilydd ond mae rhai ohonynt yn ddu ac eraill yn frown.
Cynefin:
Egin meddal neu blanhigion ifanc iawn. Mae'n rhwydd iddynt sugno sudd o'r egin meddal. Nid yw rhisgl na bonion caled yn ddeniadol i lau'r coed. Ceir llyslau sy'n byw ar blanhigion o bob math, gan gynnwys coed pinwydd.
Beth maen nhw'n ei fwyta?
Sudd o blanhigion.
Beth sy'n eu bwyta nhw?
Adar fel y titw penddu neu'r titw tomos las, a buchod coch cwta hefyd. Mae rhai morgrug yn casglu'r melwlith o lau'r coed fel bwyd.