Skip to main content Skip to navigation
Cyngor Gwynedd Council
English
Modiwl Addysg Parc Glynllifon
Modiwl Addysg Parc Glynllifon

Pryf Copyn

Pryf Copyn
Pryf Copyn

Grŵp: Arachnidau

Ffeithiau ffynci:

  • Mae gan bryfed cop wyth goes ac wyth llygad. 
  • Mae eu cyrff wedi'u hymrannu'n ddwy ran - y tu blaen a'r abdomen.
  • Gall pob pryf copyn wneud edau sidan. 
  • Mae'r rhan fwyaf o bryfed cop yn defnyddio'r edau i weu gwe sy'n gryf ac yn ludiog iawn.  Pan fo pryfed yn hedfan i mewn i'r we, ni allant ddianc.  Yna, mae'r pryf copyn yn defnyddio'i ddannedd gwenwynig i barlysu'r pryf cyn ei fwyta!
  • Nid yw ambell i bryf copyn, fel y Bleiddgopyn, yn gwneud gwe o gwbl.  Yn hytrach, mae'n gorwedd i ddisgwyl am ei ysglyfaeth.  Mae'n ei ddal trwy neidio arno a chydio ynddo gyda'i goesau blaen.

Cynefin:
Maent i'w gweld mewn llawer o lefydd mewn coetiroedd.  Er enghraifft, ar foncyffion coed, ymysg dail yn y coed ac ar lawr y coetir.  Mae llawer o bryfed cop yn gweu gwe rhwng brigau.

Beth maen nhw'n ei fwyta?
Pryfed.

Beth sy'n eu bwyta nhw?
Adar fel y robin goch, y fwyalchen, titw tomos las a'r titw penddu.  Llyffantod du hefyd.

 

Gweithgaredd Cylchred Bywyd
Gweithgaredd Pethau Byw
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]