Skip to main content Skip to navigation
Cyngor Gwynedd Council
English
Modiwl Addysg Parc Glynllifon
Modiwl Addysg Parc Glynllifon

Malwod a Gwlithenni

Malwen
Malwen

Grŵp: Molysgiaid

Ffeithiau ffynci:

  • Mae gan falwod a gwlithenni gyrff meddal sydd wedi'u gorchuddio mewn llysnafedd.  Nid oes ganddynt goesau ac maent yn symud o gwmpas gan ddefnyddio'r 'droed' gyhyrog o dan eu cyrff.  Mae'r llysnafedd yn eu helpu i lithro o gwmpas! 
  • Mae gan falwod gregyn a gallant guddio ynddynt pan fyddant yn teimlo dan fygythiad.  Nid oes gan wlithenni gregyn o gwbl.
  • Mae gan falwod a gwlithenni dentaclau ar eu pennau.  Mae llygaid ar ben y tentaclau hiraf, a defnyddiant y tentaclau byrrach i 'arogli'.

Cynefin:
Mae malwod a gwlithenni'n hoffi llefydd llaith.  Maent yn hoffi cuddio dan bentyrrau o bren pydredig, dan gerrig, mewn llwyni trwchus neu mewn craciau yn y wal.

Beth maen nhw'n ei fwyta?
Planhigion gwyrdd a ffyngau maen nhw'n ei fwyta'n bennaf, ond mae rhai ohonynt yn bwyta anifeiliaid marw hefyd.  Mae malwod a gwlithenni yn defnyddio'u tafodau cras i 'stwnsio' eu bwyd.

Beth sy'n eu bwyta nhw?
Adar (fel mwyeilch), draenogod, llyffantod du, moch daear a llygod coch.  

 

Gweithgaredd Cylchred Bywyd
Gweithgaredd Pethau Byw
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]