Gwyfynod

Gwyfyn
Grŵp: Pryfed
Ffeithiau ffynci:
- Mae gwyfynod yn bryfed sy'n gallu hedfan. Mae ganddynt bedair adain, ac maen nhw'n debyg i loÿnnau byw.
- Yn wahanol i loÿnnau byw, mae'r rhan fwyaf o wyfynod yn effro yn ystod y nos.
- Nid ydynt mor lliwgar â gloÿnnau byw, ond mae gan rai ohonynt batrymau diddorol ar eu hadenydd 'pluog' a'u cyrff.
- Mae eu lliwiau llwyd a brown yn ei gwneud yn anodd i'w hysglyfaethwyr eu gweld yn ystod y nos.
- Llygaid bach sydd gan wyfynod, ac ni allant weld yn dda iawn. Maent yn defnyddio'u hantenae (teimlyddion) mawr i deimlo'u ffordd o gwmpas.
- Lindys yw gwyfynod ifanc ac maen nhw'n troi i fod yn wyfynod pan maent yn hŷn (fel gloÿnnau byw).
Beth maen nhw'n ei fwyta?
Mae'r rhan fwyaf o wyfynod yn yfed y neithdar o flodau sy'n arogli'n dda yn y nos. Maent yn defnyddio eu tafod sydd fel gwelltyn hir i sipian yr hylif allan ohonynt.
Mae lindys yn bwyta amrywiaeth o blanhigion gwyrdd.
Beth sy'n eu bwyta nhw?
Ystlumod oherwydd eu bod hwythau allan yn ystod y nos hefyd.
Mae rhai adar fel y robin goch yn bwyta gwyfynod hefyd os ydynt yn dod o hyd iddynt yn ystod y dydd.