Skip to main content Skip to navigation
Cyngor Gwynedd Council
English
Modiwl Addysg Parc Glynllifon
Modiwl Addysg Parc Glynllifon

Neidr Filtroed

Grŵp:
Amldroedion.

Ffeithiau ffynci:

  • Mae gan nadredd miltroed gyrff hir a chaled sy'n gylchrannog (yn ymrannu'n gylchoedd)
  • Mae ganddynt lawer o goesau bach bach -  4 coes ar bob darn. 
  • Mae ganddynt ddwy antenae (teimlyddion) ar eu pennau.
  • Mae rhai nadredd miltroed yn ymbelennu, (rhoi eu hunain mewn siâp pêl) pan mae arnyn nhw ofn.


Cynefin:
Mae nadredd miltroed yn hoffi llefydd tywyll a llaith fel dail marw, pridd a boncyffion pydredig ar lawr coetir. 

Beth maen nhw'n ei fwyta?
Planhigion llaith sy'n farw a ffyngau.

Beth sy'n eu bwyta nhw?
Moch daear, llygod coch, brogaod, draenogod ac adar fel y robin goch a'r fwyalchen.

 

Gweithgaredd Cylchred Bywyd
Gweithgaredd Pethau Byw
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]