Skip to main content Skip to navigation
Cyngor Gwynedd Council
English
Modiwl Addysg Parc Glynllifon
Modiwl Addysg Parc Glynllifon

Pryf Lludw

Pryf Lludw
Pryf Lludw

Grŵp: Pryfed

Ffeithiau ffynci:

  • Mae gan lau'r coed 6 o goesau, dwy antena (teimlyddion), ac mae adenydd gan rai ohonynt. 
  • Mae rhan o'u cegau fel gwelltyn sy'n gallu sugno sudd melys o blanhigion. 
  • Mae lleuen y coed yn cynhyrchu hylif melys o'r enw melwlith o fandyllau ar eu cefnau oherwydd eu bod yn sugno cymaint o sudd. 
  • Gall llawer o'r hylif hwn ddisgyn o goed gan beri i geir sydd wedi parcio oddi tanynt fynd yn ludiog ac yn fudr yn ystod yr haf!
  • Nid yw pob lleuen y coed yn wyrdd! 
  • Maent yn rhan o deulu o'r enw llyslau; maent yn debyg i'w gilydd ond mae rhai ohonynt yn ddu ac eraill yn frown.

Cynefin:
Egin meddal neu blanhigion ifanc iawn.  Mae'n rhwydd iddynt sugno sudd o'r egin meddal.  Nid yw rhisgl na bonion caled yn ddeniadol i lau'r coed.  Ceir llyslau sy'n byw ar blanhigion o bob math, gan gynnwys coed pinwydd.

Beth maen nhw'n ei fwyta?
Sudd o blanhigion.

Beth sy'n eu bwyta nhw?
Adar fel y titw penddu neu'r titw tomos las, a buchod coch cwta hefyd.  Mae rhai morgrug yn casglu'r melwlith o lau'r coed fel bwyd.

 

Ebostiwch y dudalen hon at ffrind

Rhaid llenwi pob maes â *






Gweithgaredd Cylchred Bywyd
Gweithgaredd Pethau Byw
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]