Skip to main content Skip to navigation
Cyngor Gwynedd Council
English
Modiwl Addysg Parc Glynllifon
Modiwl Addysg Parc Glynllifon

Pryf Clustiau

Pryf Clustiau
Pryf Clustiau

Grŵp:
Pryfed

Ffeithiau ffynci:

  • Mae gan y pryf hwn gorff fflat, cochfrown. 
  • Mae ganddo bâr o binsiyrnau ar gefn ei gorff a bydd yn codi'r rheiny fel cynffon sgorpion os yw'n teimlo'i fod yn cael ei fygwth.
  • Mae ganddo chwe choes ac antenae fel pob pryf arall.
  • Mae ei adenydd eiddil wedi'u plygu'n dynn o dan gasys adenydd bach. 
  • Er ei fod yn gallu hedfan, ni wna hynny'n aml.

Cynefin:
Yn ystod y dydd, mae pryfed clustiau'n cuddio mewn llefydd tywyll a chysgodol fel o dan gerrig a boncyffion ar y ddaear neu dan risgl llac ar goed.  Dônt allan i fwydo yn ystod y nos.

Beth maen nhw'n ei fwyta?
Dail, gwreiddiau, ffrwythau aeddfed ac weithiau anifeiliaid marw.

Beth sy'n eu bwyta nhw?
Adar fel y fwyalchen a'r robin goch, draenogod, brogaod, moch daear, llygod coch.

Gweithgaredd Cylchred Bywyd
Gweithgaredd Pethau Byw
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]