Skip to main content Skip to navigation
Cyngor Gwynedd Council
English
Modiwl Addysg Parc Glynllifon
Modiwl Addysg Parc Glynllifon

Neidr Gantroed

Neidr Gantroed
Neidr Gantroed

Grŵp:
Amldroedion

Ffeithiau ffynci:

  • Mae gan nadredd cantroed gyrff hir a fflat sydd wedi'u hymrannu'n gylchoedd (neu segmentau).
  • Mae ganddynt bâr o goesau ar bob segment o'u corff.  Gallant fod â rhwng 30 a 70 o goesau.  Mae nadroedd cantroed yn gallu rhedeg yn gyflym iawn!
  • Mae ganddynt ddwy antena hir (teimlyddion) ar eu pennau, ac maent yn defnyddio'r rheiny i ddod o hyd i fwyd.
  • Nid oes ganddynt lygaid, ond nid oes eu hangen arnynt gan eu bod yn dod allan i hela am fwyd yn ystod y nos.
  • Mae gan y neidr gantroed ddannedd gwenwynig miniog ar bob ochr i'w phen.  Pan ddaw'r neidr gantroed o hyd i greadur bach i'w fwyta, mae'n ei ladd trwy blannu'i dannedd yng nghorff y creadur.


Cynefin:
Maent yn hoffi llefydd tywyll a llaith fel dail sy'n pydru, pridd a boncyffion sy'n pydru.  Maent yn cuddio yn y mannau hyn yn ystod y dydd.

Beth maen nhw'n ei fwyta?
Gwlithenni, abwydod, pryfed lludw

Beth sy'n eu bwyta nhw?
Moch daear a llygod coch.

Gweithgaredd Cylchred Bywyd
Gweithgaredd Pethau Byw
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]