Glöyn Byw

Gloyn Byw
Grŵp:
Pryfed
Ffeithiau ffynci:
- Mae gloÿnnau byw yn bryfed sy'n hedfan.
- Mae ganddynt bedair adain sy'n aml yn lliwgar iawn – mae'r lliwiau disglair hyn yn rhybuddio ysglyfaethwyr ac maen nhw i'r dim os ydynt am ddangos eu hunain i loÿnnau byw eraill.
- Mae gloÿnnau byw yn cau eu hadenydd pan fônt yn gorffwyso gan ddangos y rhan sydd oddi tanynt. Lliw brown neu wyrdd anniddorol sydd i ochr arall eu hadenydd ac mae hynny'n beth da os ydynt am guddio yn erbyn coed a dail.
- Mae ganddynt lygaid mawr a gallant weld yn eithaf da. Mae ganddynt antenae (teimlyddion) hir a chwech o goesau.
- Y mae'r enw Cymraeg “glöyn byw” yn golygu gem fyw.
Rhagor o ffeithiau ffynci!
- Lindys yw gloÿnnau byw ifanc. Mae gan bob lindys gorff meddal siâp tiwb, pen mawr a choesau byrion.
- Mae llawer o lindys yn wyrdd fel nad oes modd eu gweld yn erbyn dail.
- Pan fo'r lindys ychydig yn hŷn, maen nhw'n gwneud 'cas' bach o'r enw crysalis ac yn gorffwyso ynddo (fel mymi). Yn ystod eu cyfnod oddi mewn i'r crysalis, bydd y lindys yn troi'n loÿnnau byw!
- Bydd y gloÿnnau byw newydd yn hedfan allan o'r crysalis pan fyddant yn barod.
Cynefin:
Mae gloÿnnau byw yn hoffi llefydd heulog lle gallant dwymo eu hadenydd. Maen nhw'n hoffi cyrion cysgodol y coetir a'r lawntiau ym Mharc Glynllifon.
Beth maen nhw'n ei fwyta?
Mae'r rhan fwyaf o loÿnnau byw yn yfed neithdar o flodau. Defnyddiant eu tafod, sydd fel gwelltyn hir, i sipian yr hylif allan.
Mae lindys yn bwyta dail, a gallant fod yn eithaf anodd eu plesio o ran dail yr union blanhigyn y byddant yn eu bwyta!
Beth sy'n eu bwyta nhw?
Adar fel y robin goch a'r fwyalchen, a phryfed cop.