


Grwp:
Pryfed
Ffeithiau ffynci:
Cynefin:
Mae chwilod daear fioled yn cuddio dan foncyffion, cerrig a dail marw yn ystod y dydd ac yn hela creaduriaid bach yn ystod y nos.
Gellir dod o hyd i fuchod coch cwta ar ddail yn hela llau'r coed.
Beth maen nhw'n ei fwyta?
Mae rhai chwilod yn bwyta creaduriaid bach eraill ond mae eraill yn bwyta planhigion. Mae llawer o gynrhon chwilod yn bwyta pren marw.
Mae'r fuwch goch gwta yn hoffi bwyta llau'r coed. Mae chwilod daear fioled yn bwyta pryfed, pryfed cop, abwydod a phryfed lludw.
Beth sy'n eu bwyta nhw?
Rhai adar fel y fwyalchen a'r robin goch, draenogod, llygod coch ac ystlumod. Bydd cnocellau'r coed yn cynio i mewn i goed marw er mwyn dod o hyd i gynrhon chwilod. Mae ystlumod yn bwyta chwilod sy'n hedfan yn y nos.