


Grwp:
Pryfed
Ffeithiau ffynci:
Cynefin:
Unrhyw le os oes digonedd o flodau yno ac os nad yw hi'n rhy oer yno yn ystod y gaeaf. Mae gwenyn yn byw mewn grwpiau mawr mewn coed, yn y gwyllt, neu mewn cwch gwenyn lle mae gwenynwyr yn gofalu amdanynt. Maen nhw'n gwneud crwybrau i storio mêl ac i amddiffyn eu cynrhon a'u pwpaod ifanc. Mae'r rhan fwyaf o fathau o wenyn yn byw eu hunain.
Beth maen nhw'n ei fwyta?
Neithdar a phaill o flodau ac o goed.
Beth sy'n eu bwyta nhw?
Bydd gwenyn yn amddiffyn eu nythod rhag ysglyfaethwyr trwy eu pigo. Fodd bynnag, mae mêl yn faethlon ac yn flasus dros ben, felly hefyd y pwpaod a'r cynrhon. Felly, bydd moch daear a chnocellau'r coed yn ymosod weithiau ar nyth gwenyn, os gallant ddod o hyd i un sydd o fewn cyrraedd iddynt, a mentro cael eu pigo'n ddrwg.