Skip to main content Skip to navigation
Cyngor Gwynedd Council
English
Modiwl Addysg Parc Glynllifon
Modiwl Addysg Parc Glynllifon

Morgrug

Grŵp: Pryfed.

Ffeithiau ffynci:

  • Mae gan forgrug 6 choes, dwy antena (teimlyddion), pâr o enau a dau lygad.
  • Fel pob pryf, mae eu cyrff mewn tair rhan, ond mae rhan ganol y morgrugyn yn llawer culach na'r ddwy ran arall.
  • Maent yn ddu, yn frown neu goch-frown eu lliw.
  • Gall morgrug gwryw a morgrug benyw hedfan.
  • Mae morgrug yn byw mewn grwpiau mawr ac weithiau byddant yn gweithio gyda'i gilydd i ddal pryfed neu i gasglu planhigion fel bwyd.
  • Mae rhai mathau o forgrug yn swil ac mae eraill yn ymosodgar.

Cynefin:
Mae cannoedd o forgrug yn byw gyda'i gilydd mewn nyth gyda llawer o dwnneli ar lawr y coetir.  Mae'r morgrug benyw yn dodwy'r holl wyau yn y nyth.  Mae rhai mathau o forgrug yn chwistrellu asid hyd at 1 metr i ffwrdd er mwyn amddiffyn eu nyth.
Yng Nglynllifon, mae morgrug i'w gweld ar y ddaear, ar goed ac ar lwyni yn chwilio am fwyd.

Beth maen nhw'n ei fwyta?
Mae morgrug yn bwyta'r melwlith melys sy'n cael ei wneud gan lau'r coed.  Mae'r morgrug, yn eu tro, yn amddiffyn llau'r coed rhag rhai o'u hysglyfaethwyr.
Mae rhai morgrug hefyd yn bwyta neithdar o flodau ac mae rhai morgrug yn bwyta pryfed eraill – gan ddefnyddio eu genau miniog a'u brathiad gwenwynig. 

Beth sy'n eu bwyta nhw?
Adar, yn enwedig cnocellau'r coed sy'n defnyddio eu tafodau hir i ganfod morgrug yn eu nyth.

Gweithgaredd Cylchred Bywyd
Gweithgaredd Pethau Byw
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]