


Daeth Archibald Menzies â'r rhywogaeth yma i Brydain o Chile yn 1795. Roedd ei hedrychiad anghyffredin yn boblogaidd iawn yn oes Fictoria. Mae'r goeden yn perthyn i deulu cyntefig yr Araucariaceae, sydd â ffosiliau yn dyddio'n ôl i'r cyfnod Triasig.
Mae gan y binwydden Chile fwyaf yng Nglynllifon foncyff sy'n mesur 3.38m o amgylch ei waelod ac mae'n ymdebygu i droed deinosor! Mae rhodfa hynod o binwydd Chile yng Ngerddi a Gardd Goed Woodstock yn Swydd Kilkenny sydd wedi gefeillio â Pharc Glynllifon ers 2003.