Celynnen Brenin Euraidd (Ilex X Altaclerensis)

Celynnen Brenin Euraidd gan John Whitehead
Celynnen a chanddi enw amwys! Mae coed celyn naill ai'n wryw neu'n fenyw, ac mae botanegwyr yn galw rhywogaethau o'r fath yn ddeuoecaidd. Coeden fenywaidd yw'r 'Brenin Aur' sy'n cynhyrchu aeron coch, a dylid bod wedi ei galw'n 'Frenhines Aur' ond mae hwnnw'n enw ar gelynnen arall sydd yn goeden wrywaidd!