Cnocell Fraith Fwyaf
Grŵp:
Adar
Ffeithiau Ffynci:
Hyd: 22cm - 23cm
- Mae'r gnocell fraith fwyaf yn ddu a gwyn gyda darn coch llachar o dan y gynffon. Mae gan y gnocell wryw ddarn coch ar gefn y pen hefyd.
- Mae'r gnocell fraith fwyaf yn chwilio am fwyd drwy sboncian i fyny boncyffion coed a churo'n gadarn ar y rhisgl gyda'i phig gref i wneud tyllau. Mae'n gallu dal pryfed sy'n cuddio o dan y rhisgl gyda'i thafod hir gludiog!
- Ni chânt eu gweld yn aml ar y ddaear.
- Er mwyn gwneud nyth, mae'n gwneud twll mewn boncyff coeden gan ddefnyddio'i phig finiog. Yn ystod mis Mai neu Fehefin, mae'r gnocell fenyw yn dodwy rhwng 4 a 7 o wyau yn y nyth.
- Mae galwad yr aderyn yn swnio fel 'cic cic' uchel . Maen nhw hefyd yn defnyddio'u pigau i guro'n drwm ar foncyffion coed marw i amddiffyn eu tiriogaeth rhag tresmaswyr.
Beth maen nhw'n ei fwyta?
Pryfed, yn enwedig chwilod a'u larfâu, neu weithiau mêl a chynrhon gwenyn neu gacwn.
Maen nhw hefyd yn bwyta ffrwythau, hadau a chnau. Maen nhw'n morthwylio cnau a chonau gyda'u pig nes eu bod yn agor.
Ambell waith, mae'r Gnocell Fraith Fwyaf yn cymryd wyau a chywion o nythod adar llai.
Beth sy'n eu bwyta nhw?
Nid yw Cnocellau'n tueddu i gael niwed gan ysglyfaethwyr.
Pryd allaf i eu gweld?
Drwy'r flwyddyn.