Skip to main content Skip to navigation
Cyngor Gwynedd Council
English
Modiwl Addysg Parc Glynllifon
Modiwl Addysg Parc Glynllifon

Adar

Ji-Binc gan Darin Smith
Ji-Binc gan Darin Smith

Mae sawl math o adar yn Glynllifon. Mae'n siwr y byddwch yn eu clywed ond does dim sicrwydd y byddwch yn eu gweld. Mae patrwm ymddygiad adar yn amrywio yn ystod y flwyddyn ac felly mae'n anodd gwybod ble yn union y maent.

Y gwanwyn, rhwng Ebrill a Mehefin, yw adeg gorau'r flwyddyn i weld adar. Yn ystod y cyfnod hwn mae'r rhan fwyaf o adar yn nythu ac yn aros o fewn eu 'tiriogaeth'. Y bore yw'r adeg gorau i'w gweld. Yn ystod misoedd yr haf bydd y rhan fwyaf o adar wedi'u cuddio gan ganopi'r coed, ac felly bydd yn haws eu gweld mewn mannau agored neu wrth ymyl y coedwigoedd.

Rydych yn debygol o weld mwy o adar wrth ddilyn y llwybrau mewn grŵp bychan o bobl, gan gymryd eich amser. Cofiwch bod adar yn bwrw'u plu ym mis Gorffennaf ac Awst ac yn eithaf tawedog.

Mae adar yn dewis rhai cynefinoedd yn y coed oherwydd y math o fwyd y maent yn ei ddarganfod yno.

 

Gweithgaredd Cylchred Bywyd
Gweithgaredd Pethau Byw
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]