


Grŵp:
Mamaliaid
Ffeithiau Ffynci:
Hyd y Corff: tua 48 cm.
Ffwr llwydfrown sydd gan gwningod. Mae ganddynt gynffon fer iawn, clustiau hir a choesau ôl hir sy'n eu helpu i hopian yn gyflym.
Mae cwningod yn byw mewn grwpiau mawr mewn twnneli o dan y ddaear o'r enw 'cwningar'.
Daw cwningod allan o'u cwningar i fwydo ar blanhigion gwyrdd fin nos ond mae'n bosib iddynt ddod allan yn ystod y dydd mewn mannau tawel.
Nid yw cwningod yn crwydro'n bell o'u cartrefi. Oherwydd hynny, mae'r planhigion sy'n tyfu ger y gwningar wedi'u cnoi i lawr at y ddaear fel arfer.
Mae cwningod yn gallu gweld yn dda, arogli'n dda a chlywed yn dda. Mae'r synhwyrau hyn yn helpu cwningod i osgoi ysglyfaethwyr. Pan ddaw ysglyfaethwr i'r golwg, bydd un gwningen yn rhybuddio'r gweddill trwy daro ei throed ôl ar y ddaear a rhedeg i ffwrdd gan ddangos y ffwr gwyn o dan ei chynffon (fel baner wen!).
Beth maen nhw'n ei fwyta?
Planhigion gwyrdd fel bwtsias y gog, briallu a gwahanol fathau o laswellt, a rhisgl coed.
Beth sy'n eu bwyta nhw?
Llwynogod ac adar ysglyfaethus mawr. Ambell waith, bydd moch daear yn bwyta cwningod ifanc. Mae pobl, hefyd, yn bwyta cwningod.
Pryd allaf i eu gweld?
Gydol y flwyddyn.