


Grŵp:
Mamaliaid
Ffeithiau Ffynci:
Hyd y corff – 40 mm , Lled adenydd - 25 cm.
Mae'r ystlum trwyn pedol bach yn fach iawn. Mae'n pwyso yr un faint â dwy bensel.
Cafodd yr ystlum trwyn pedol ei enw oherwydd y fflap o groen sydd ganddo o amgylch ei ffroenau - siâp pedol sydd arno.
Fel pob rhywogaeth arall o ystlum, mae gan yr ystlum trwyn pedol bach gorff blewog, adenydd, dwy glust a dau lygad bach.
Mae esgyrn adenydd ystlumod yn debyg iawn i esgyrn bysedd y llaw ddynol, gyda chroen yn ymestyn rhwng y 'bysedd' hirion i ffurfio'r adain. Hefyd, mae gan ystlumod fawd siâp bachyn ar y ddwy adain.
Yn ystod y dydd, mae'r ystlum trwyn pedol bach yn hoffi gorffwyso trwy hongian ar ei ben i lawr o gronglwyd seler neu ogof, gan gydio'n dynn gyda'i draed. Mae'n mynd i gysgu gyda'i adenydd wedi'u lapio o amgylch ei gorff. Mae cytref fawr o tua 600 o'r ystlumod hyn yn clwydo yn seleri plas Glynllifon tua diwedd yr haf.
Pan mae'n dechrau nosi, daw'r ystlumod trwyn pedol bach allan i hela am fwyd.
Wrth iddynt hedfan o gwmpas yn y tywyllwch, dônt o hyd i'w bwyd, ac osgoi taro coed, trwy leoli gwrthrychau yn sgîl adleisiau. Mae hynny'n golygu eu bod yn gwneud sŵn uchel iawn ei draw sy'n bowndio oddi ar wrthrych (fel gwyfyn) ac yn creu adlais. Gall yr ystlum glywed yr adlais hwn yn glir. Mae mor bwerus fel eu bod yn gwybod yn union lle mae'r gwyfyn neu'r goeden!
Beth maen nhw'n ei fwyta?
Pryfed, yn enwedig gwyfynod a chwilod sy'n hedfan yn y nos.
Beth sy'n eu bwyta nhw?
Tylluanod.
Pryd allaf i eu gweld?
Oherwydd eu bod yn cysgu'r gaeaf, mae'n debyg y byddwch yn eu gweld yn ystod nosweithiau o haf pan fyddant yn hedfan yn agos at goed a gwrychoedd.