


Grŵp:
Mamaliaid
Ffeithiau Ffynci:
Hyd: 23cm - 30cm.
Ffwr llwyd sy'n gorchuddio'r rhan fwyaf o gorff y wiwer lwyd, ond mae rhannau o'r ffwr yn goch hefyd.
Mae eu traed a'u crafangau miniog yn eu helpu i ddringo coed. Mae eu cynffon hir yn ddefnyddiol hefyd i gadw'u cydbwysedd ar ganghennau.
Mae gwiwerod llwyd yn chwilio am fwyd mewn coed ac ar y ddaear. Yn yr hydref, maen nhw'n storio mes a chnau eraill yn y ddaear. Pan ddaw'r gaeaf a phan fo bwyd yn brin, mae'r gwiwerod yn mynd i chwilio am y mes yr oeddent wedi'u claddu!
Mae'r nyth gwiwer yn fawr ac wedi'i wneud o ddail, brigau, rhisgl a glaswellt. Bydd wedi'i adeiladu ar gangen gref yn agos at foncyff coeden. Bydd y gwiwerod yn cysgodi rhag tywydd drwg ac yn rhoi genedigaeth i'r gwiwerod ifanc yn y nythod.
Beth maen nhw'n ei fwyta?
Mes, cnau ffawydd a chnau yn bennaf e.e. o goed 'cas gan fwncïod', a ffyngau. Bydd y gwiwerod yn defnyddio'u pawennau blaen a'u dannedd i agor plisgyn cnau trwy rym.
Maent hefyd yn bwyta wyau adar, cywion ifanc, dail, rhisgl coed, moch coed a blagur.
Beth sy'n eu bwyta nhw?
Nid yw gwiwerod yn agored iawn i niwed gan ysglyfaethwyr, er ei bod yn bosib y bydd adar ysglyfaethus mawr yn ceisio dal gwiwerod iau.
Pryd allaf i eu gweld?
Gydol y flwyddyn.