Skip to main content Skip to navigation
Cyngor Gwynedd Council
English
Modiwl Addysg Parc Glynllifon
Modiwl Addysg Parc Glynllifon
Rydych chi yma: Cartref > Diwylliant a Hamdden > Parc Glynllifon > Safle Addysg Parc Glynllifon > Llyfrgell Bywyd Gwyllt

Llwynog

Llwynog
Llwynog

Grŵp: Mamaliaid

Ffeithiau Ffynci:
Hyd y Corff:  66 cm, Cynffon: 38 cm

Mae gan y llwynog lygaid melyn-oren, trwyn a chlustiau pigfain, cynffon drwchus, ffwr coch gyda bol gwyn.  Mae'n edrych yn debyg i gi bach.

Mae llwynogod yn anifeiliaid clyfar.  Maen nhw'n canfod pob math o ffyrdd o gael bwyd.  Mewn coetiroedd, byddant yn bwyta anifeiliaid bach fel llygod, ond bydd  ŵyn a ieir yn ysglyfaeth iddynt ar ffermydd.  Weithiau, mae'n bosib eu gweld mewn trefi hefyd lle byddant yn bwyta llygod mawr a bwyd sy'n cael ei adael gan bobl anniben ar y stryd.

Os yw llwynogod yn cael gormod o fwyd, byddant yn ei gladdu o dan y ddaear i'w storio nes bod ei angen arnynt.

Mae llwynogod yn byw mewn grwpiau teuluol sy'n cynnwys gwryw, benyw a llwynogod ifanc.  Cenawon yw'r enw ar lwynogod ifanc.
 
Yn ystod yr haf, bydd llwynogod yn defnyddio gwâl i guddio'u cenawon rhag ysglyfaethwyr.  Gall llwynogod ddefnyddio ogof, hen dwnnel mochyn daear neu dwll o dan goeden fel gwâl.  Os oes raid, ânt ati i dyrchu eu gwâl eu hunain.  Ar adegau eraill o'r flwyddyn, ni fydd llwynogod yn defnyddio gwâl.

Beth maen nhw'n ei fwyta?
Anifeiliaid bach fel cwningod, llygod, llygod y gwair, abwydod, draenogod, anifeiliaid marw. 

Mae llwynogod ifanc yn cael eu bwydo gyda phryfed genwair.

Beth sy'n eu bwyta nhw?
Nid yw llwynogod yn agored iawn i niwed gan ysglyfaethwyr ond mae'n bosib y bydd rhai adar ysglyfaethus yn cymryd llwynogod ifanc.

Pryd allaf i eu gweld?
Gydol y flwyddyn.

 

Gweithgaredd Cylchred Bywyd
Gweithgaredd Pethau Byw
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]