


Mae yna erddi coediog eang ym Mharc Glynllifon gyda afon hardd yn llifo drwyddynt. Daw nifer o bobl yma i fynd am dro drwy'r coed ac i fwynhau'r awyrgylch tawel. Weithiau byddent yn cael cip ar rai o adar ac anifeiliaid y goedwig.
Os ewch am dro ar hyd llwybrau'r gerddi, byddwch yn sïwr o weld Plas Glynllifon. Adeiladwyd y plas dros 150 o flynyddoedd yn ôl ar gyfer teulu cyfoethog iawn, sef teulu'r Wynniad. Yn wir, gerddi preifat y plas oedd gerddi Parc Glynllifon bryd hynny ac ni fyddai pobl gyffredin yn cael eu mwynhau!
Mae yna siop ac oriel, caffi a gweithdai ym Mharc Glynllifon hefyd. Yn ystod yr 19eg ganrif, roedd teulu'r Wynniaid yn cyflogi crefftwyr megis seiri coed a maen i weithio yn yr un gweithdai. Gallwch weld ychydig o'r hen offer a pheiriannau a ddefnyddiwyd ganddynt yn yr adeiladau hyd heddiw, yn cynnwys injan stêm!
Mae rhywbeth i'w weld ym mhob cornel o'r Parc, dewch i ddarganfod dros eich hunan!