Cronfeydd Cefnogi (SPF)

Fel rhan o raglen Ffyniant Cyffredin DU, mae oddeutu £20m wedi ei glustnodi ar gyfer sir Gwynedd gyda peth o’r arian wedi ei ymrwymo ar gyfer sefydlu Cronfeydd ar gyfer cefnogi prosiectau yn y maes Adfywio. Fel rhan o’r cynllun mae Cyngor Gwynedd yn agor 3 Cronfa;

  1. Cronfa Cefnogi Adfywio
  2. Cronfa Cefnogi Diwylliant, Digwyddiadau, Byw’n Iach ac Actif
  3. Cronfa Cefnogi Busnes

Mae’r Cronfeydd Cefnogi Adfywio, Cefnogi Diwylliant, Digwyddiadau, Byw’n Iach ac Actif yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan sefydliadau nid-er-elw (ond sy’n cynnwys mentrau cymdeithasol â threfnwyr digwyddiadau) i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb i gefnogi prosiectau fydd yn gwella ansawdd trigolion a chymunedau’r Sir, ar sail cyflwyno ceisiadau. 

 

Mae Cronfa Cefnogi Adfywio bellach wedi CAU. Gweler rhestr o brosiectau a gefnogwyd isod. 

Prosiectau a ariennir drwy Gronfa Cefnogi Adfywio Cymunedau

Manylion cyswllt: cronfacefnogiadfywio@gwynedd.llyw.cymru

Mae’r cronfa Byw’n Iach ac Actif bellach wedi cau.

Mae Cronfa Cefnogi Digwyddiadau bellach wedi cau.