Celfyddydau Cymunedol

Mae Uned Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn cynnal cyfres o gynlluniau blynyddol sy’n cefnogi pobl gael mynediad at, mwynhau a phrofi’r celfyddydau, a hynny er lles unigolion, cymdeithas, yr economi a chymuned.

Bob blwyddyn mae Uned Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn cynnal rhaglen o wahanol weithgareddau a phrosiectau ar draws y sir. O weithdai i arddangosfeydd, cyrsiau i grantiau a gwyliau i gynlluniau creadigol, rydym am i bawb fwynhau'r celfyddydau.

Mae grantiau ar gael i gefnogi gweithgarwch celfyddydol. Gallwn hefyd gefnogi perfformiadau proffesiynol yn y gymuned drwy raglen Noson Allan a Noson Allan Fach, mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru

Mwy o fanylion am gronfeydd ariannol

 

Newyddion...

 Ymunwch â ni ar gyfer un o'n sesiynau celf yn ystod ein diwrnod Blasu Celf Botwnnog ddydd Sul 28ain o Ebrill.

Mae ein Diwrnodau Blasu Celf wedi cael eu cynnal yn Galeri Caernarfon a Theatr Derek Williams yn y Bala o'r blaen, gan roi cyfle i drigolion Gwynedd roi cynnig ar wahanol weithgareddau celfyddydol newydd.

Ym Motwnnog, byddwn yn cynnal pedwar gweithdy – Camau Nesaf Cerdd i oed 4-6 gyda Chanolfan Gerdd Williams Mathias, sesiynau celf i blant gyda'r artist Tess Urbanska, sesiwn gelfyddydol i oedolion gyda Lora Morgan, ac yn olaf gweithdy drymio gyda Neil Williams.

Mae'r holl weithdai yn rhad ac am ddim, a bydd te a chacen yn cael eu darparu ar y diwrnod.

I archebu lle ar unrhyw un o'r gweithdai ebostiwch ffionstrong@gwynedd.llyw.cymru.

 

Oriel Ysbyty Gwynedd

Rydym bron wedi cyrraedd diwedd ein blwyddyn gyntaf o arddangosfeydd yn Oriel Ysbyty Gwynedd ers ail-ddechrau ar ôl diwedd y cyfnodau clo Covid.

 

Mae amrywiaeth eang o waith wedi'i arddangos, ac mae pob arddangosfa wedi cael derbyniad da iawn.

 

Roedd y pedwar gwaharddiad cyntaf gan yr artistiaid canlynol:

Femke Van Gent – artist / darlunydd lleol, gallwch weld enghreifftiau o'i gwaith ar ei gwefan www.femkevangent.art.

Menai Rowlands a Ffion Pritchard o gydweithfa gelfyddydau CARN - mwy o fanylion ar wefan CARN www.carncelf.com.

Grŵp Celf Age Cymru Gwynedd a Môn – mae'r grŵp hwn yn cyfarfod bob wythnos ym Mhontnewydd i greu celf gyda'i gilydd dan arweiniad Marian Sandham.

Ffion Evans – artist tecstilau lleol yn arddangos ei gwaith ei hun a hefyd enghreifftiau o waith celf a gynhyrchwyd mewn gweithdai ar ward dementia Ysbyty Gwynedd. Gellir gweld enghreifftiau o'i gwaith ar ei gwefan www.ffionevanstextiles.com.

 

Os hoffech wybod mwy am Oriel Ysbyty Gwynedd, neu os hoffech arddangos eich gwaith, cysylltwch â ni drwy e-bost yn celf@gwynedd.llyw.cymru.

  

Croeso i Lyfr Lloffion Gaeaf 2023 Celfyddydau Cymunedol Gwynedd.

Mae amser wedi hedfan ac mae bron yn ddiwedd blwyddyn arall, sut ddigwyddodd hynny! Rydym wedi bod mor brysur efo gymaint o weithgareddau creadigol ledled Gwynedd, a hoffwn rannu rhai o'r rhain gyda chi yn y Llyfr lloffion hwn.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau ei ddarllen, ac os oes gennych unrhyw sylwadau, adborth neu syniadau am brosiectau creadigol yn eich cymuned cysylltwch â ni, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych. 

E-bostiwch ni ar celf@gwynedd.llyw.cymru

Llyfr Lloffion Gaeaf 2023



Mwy o wybodaeth...

Am newyddion, cyfleoedd, digwyddiadau, manylion artistiaid a mudiadau celfyddydol Gwynedd ymwelwch â Gwynedd Greadigol, neu dilynwch ni ar Trydar a Facebook. 

 

Cysylltu â ni

Cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol ar:
y ffôn: 07765 652742
instagram: @celfgwyneddarts