Paru data

Fel awdurdod cyhoeddus, mae'n ofynnol i Gyngor Gwynedd, yn unol â'r gyfraith, ddiogelu'r arian cyhoeddus a weinyddir ganddo. Gallwn rannu gwybodaeth a roddir i ni â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a chanfod twyll.

 

Ym mis Hydref 2022, bydd y cyfnod diweddaraf o’r ymarferiad paru data i bwrpas atal twyll, sydd yn cael ei adnabod fel y Menter Twyll Cenedlaethol (“NFI”), yn cychwyn. Bydd data Cyngor Gwynedd, ynghyd â data cyrff cyhoeddus eraill, yn cael ei gyflwyno i Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

 

Mae paru data yn cynnwys cymharu cofnodion cyfrifiadurol a ddelir gan un corff yn erbyn cofnodion cyfrifiadurol eraill a ddelir gan yr un corff neu gorff arall i weld i ba raddau maent yn paru. Gwybodaeth bersonol yw'r data hwn fel arfer. Mae paru data cyfrifiadurol yn golygu bod modd adnabod ceisiadau a thaliadau a allai fod yn dwyllodrus. Pan gaiff data ei baru mae'n dynodi anghysondeb posib y mae angen ymchwilio iddo ymhellach. Ni ellir tybio a oes achos o dwyll, gwall neu esboniad arall hyd nes y cynhelir ymchwiliad.

 

Ar hyn o bryd mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, o dan ei bwerau paru data statudol a nodir yn Rhan 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Deddf 2004), yn ei gwneud yn ofynnol i ni gymryd rhan yn eu hymarfer atal twyll. Ar gyfer y fenter hon, mae’n ofynnol i ni ddarparu setiau penodol o ddata i’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer eu cydweddu/paru. Mae’r manylion i’w cael ar wefan Archwilio Cymru.

 

Caiff data eu prosesu gan yr Archwilydd Cyffredinol mewn ymarfer paru data yn unol ag awdurdod statudol, felly, nid yw deddfwriaeth Diogelu Data yn ei gwneud yn ofynnol i'r Archwilydd Cyffredinol gael caniatâd unigolion i brosesu eu data personol.

 

Mae prosesau paru data'r Archwilydd Cyffredinol yn destun Cod Ymarfer. Mae hyn er mwyn rhoi cymorth i'r cyrff sy'n ymwneud â pharu data i gydymffurfio â'r gyfraith ac ymarfer da, gan gynnwys cynnal diogelwch data (gweler Cod Ymarfer).

 

Am fwy o wybodaeth am bwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a'r rhesymau dros baru gwybodaeth benodol, gweler Archwilio Cymru neu cysylltwch â:

Archwilio Cymru,
24 Heol y Gadeirlan,
Caerdydd
CF11 9LJ,

e-bost: menter.twyll@archwilio.cymru .