Mae llyfrgelloedd ar draws gogledd Cymru yn cyflwyno cardiau ffyddlondeb fel rhan o ymgyrch newydd ‘Dy Lyfrgell’ sydd â’r bwriad o ddenu mwy o bobl i’r llyfrgell i fenthyg llyfrau. Mae’r ymgyrch yn cael ei lansio 4 Chwefror, sef Diwrnod Cenedlaethol Llyfrgelloedd, a bydd y fenter newydd yn gwobrwyo un benthyciwr lwcus efo gwobr arbennig, sef iPad newydd sbon. Mae'n rhaid bod yn 16 neu hŷn i gymryd rhan.
Trwy ymuno efo’ch llyfrgell leol, derbyn cerdyn ffyddlondeb a benthyg llyfrau dair gwaith rhwng 4 Chwefror a 23 Ebrill gallwch ennill iPad. Mae’r ymgyrch yn agored i rai 16 oed neu hŷn. Felly os ydych eisoes yn aelod holwch staff yn eich llyfrgell leol am gerdyn ffyddlondeb.
Dywedodd Gwawr Eilian Williams, Llyfrgellydd Bro a Hyrwyddwr Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd:
“Gall llyfrgelloedd helpu newid bywyd unigolion ac mae darllen yn gallu lleihau straen bywyd bob dydd. Y mwyaf mae person yn darllen y mwyaf mae ei feddwl yn datblygu, ac mae’n gwella'r gallu i ganolbwyntio. Gall darllen ffuglen agor bydoedd newydd, ac mae darllen llyfrau ffeithiol yn cyfoethogi eich gwybodaeth. Mae eich llyfrgell leol ar gael i’ch helpu i ddarganfod y bydoedd a’r profiadau hyn.”
Bwriad yr ymgyrch yw denu mwy o bobl leol i ddefnyddio eu llyfrgelloedd lleol, i ddechrau darllen ac i annog pobl i ymuno. Yr unig beth sy’n rhaid i chi wneud yw ymaelodi o 4 Chwefror ymlaen, a benthyca o leiaf tri llyfr ar dri achlysur gwahanol cyn Noson Llyfr y Byd ar 23 Ebrill er mwyn cwblhau eich cerdyn ffyddlondeb.
Ar ddiwedd yr ymgyrch, bydd pob cerdyn ffyddlondeb sydd wedi ei gwblhau yn cael ei gynnwys mewn raffl gyda’r cyfle i ennill iPad.
Am fwy o fanylion am holl lyfrgelloedd Cyngor Gwynedd – gan gynnwys lleoliad, manylion cyswllt, gweithgareddau ac oriau agor – ewch i’r wefan www.gwynedd.gov.uk/llyfrgelloedd neu dilynwch y gwasanaeth ar Twitter @LlyfrGwyneddLib