Cafwyd 20 o geisiadau gan gymunedau ledled Gwynedd, ac fel rhan o’r broses agored gystadleuol, bydd gwaith ar gynlluniau Dyffryn Ogwen, Y Felinheli, Botwnnog, Penllyn a Dinas Mawddwy yn cychwyn yn ystod Ionawr 2012.
Mae Cymunedau Cynaliadwy yn brosiect arloesol a chyffrous sy’n cael ei ariannu drwy Gynllun Datblygu Gwledig Gwynedd (2007 – 2013) ac yn cael ei chydlynu gan Gyngor Gwynedd ar ran Partneriaeth Economaidd Gwynedd.
Dywedodd Gwynedd Watkin, Cadeirydd Is-Grŵp Datblygu Gwledig Partneriaeth Economaidd Gwynedd:
“Dyma brosiect arloesol a newydd i’r Bartneriaeth ei gydlynu, ond mae’r ffaith fod cyn nifer o diddordeb wedi bod yn y cymorth sydd ar gael drwy’r prosiect hwn yn profi gwir angen y math hwn o brosiect. Y gobaith yw wrth gwrs y bydd y prosiect hwn yn torri tir newydd yn y maes datblygu iechyd economaidd a safon bywyd yng nghymunedau gwledig y sir.”
Ychwanegodd Sioned Morgan, Swyddog Prosiect Cymunedau Cynaliadwy:
“Bydd y cymunedau hyn yn derbyn cefnogaeth am ddwy flynedd gan elwa o gymorth ymarferol ac ariannol i ddadansoddi sefyllfa bresennol eu cymunedau, yr asedau cymunedol sydd ganddynt a datblygu cynlluniau ar gyfer mentrau cymunedol.
“Nod y cynlluniau hyn fydd galluogi’r cymunedau eu hunain i gynyddu cynaliadwyedd hir dymor eu hardal gan ddatblygu gallu pobl leol i barhau i fyw a gweithio yn yr ardal drwy ddatblygu cynlluniau a allai gynnwys rhannu asedau cymunedol, darganfod dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau neu ddatblygu cyfleoedd gwaith lleol.
“Yr hyn sy’n gyffrous am y cynlluniau wirioneddol gymunedol yma ydi fod y sail ar gyfer llwyddiant yn tarddu yn uniongyrchol o drigolion lleol a’u dyheadau ar gyfer eu hardal – gobeithio hefyd y bydd y cymunedau hyn yn eu tro yn ysbrydoli cymunedau eraill yng Ngwynedd i ddilyn eu hesiampl.”
Mae’r cynlluniau sydd gan y pum gymuned yn amrywio:
Y FELINHELI
Dywedodd y Cynghorydd Sian Gwenllian, sy’n cynrychioli’r Felinheli ar Gyngor Gwynedd: “Mae hwn yn amser cyffrous i’r pentref, ac rydym yn ymfalchïo yn ein llwyddiant yn sicrhau’r cymorth ymarferol sydd ar gael drwy’r prosiect ynghyd a’r cyfle i geisio am fuddsoddiad ariannol o tua £100,000 fydd yn ein cynorthwyo ni fel cymuned i wireddu ein syniadau.
“Rydym ar hyn o bryd yn edrych ar y posibiliadau o gychwyn menter drafnidiaeth cymunedol fydd yn cyfuno agweddau gwahanol; o gludo pobl i’r feddygfa, i glybiau a chymdeithasau o fewn y pentref, cludo bwyd a chynnyrch lleol i drigolion y pentref ynghyd a sicrhau fod y cerbyd yn rhedeg ar danwydd gwyrdd.”
DYFFRYN OGWEN
Dywedodd Morfudd Roberts, Clerc Cyngor Cymuned Llanllechid ar ran Partneriaeth Ogwen: “Dyma gyfnod cyffrous i ardal Dyffryn Ogwen, ac rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu sicrhau cymorth ymarferol drwy prosiect Cymunedau Cynaliadwy, yn ogystal a’r cyfle i geisio am fuddsoddiad ariannol er mwyn ein helpu i wireddu ein syniadau ar gyfer y gymuned.
“Yn y lle cyntaf, bydd gwaith yn digwydd i edrych i gydweithio gyda’r heddlu a’r undeb credyd er mwyn sicrhau presenoldeb yr heddlu a banc yn ôl i stryd fawr Bethesda.”
BOTWNNOG
Un syniad sydd wedi'i adnabod yn ardal Botwnnog yw'r posibilrwydd o ddatblygu rhan o adeilad fel adnodd i brosesu a gwerthu bwyd - creu cegin bwrpasol gydag adnoddau pwrpasol fel adnodd a fydd yn cynnig cyfle i ddatblygu, cynhyrchu a threialu cynnyrch, gan rannu ymarfer da ac arbenigedd gyda chynhyrchwyr eraill.
“Mae gennym weledigaeth o weld cynnyrch Llŷn yn cael ei brosesu a'i werthu mewn lleoliad canolog yma ym Mhen Llyn, a fydd yn ei dro yn ehangu i farchnadoedd eraill,” meddai Meinir Jones, Cydlynydd Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf yr ardal.
“Rydym yn credu y gall cymorth ymarferol ac ariannol drwy’r prosiect Cymunedau Cynaliadwy ein cynorthwyo i wireddu y weledigaeth sydd gennym a chredwn y gall y cynllun yma weithredu fel deorfa ar gyfer ardal Llŷn i yrru ymlaen a datblygu syniadau yn y maes prosesu bwyd a chynnyrch lleol.”
PARTNERIAETH PENLLYN
Mae Partneriaeth Penllyn yn awyddus i gydweithio gydag asiantaethau gwirfoddol a chynghori megis Trais yn y Cartref, Age Concern, Gwynedd Ni, Cyngor ar Bopeth, Gwasanaethau Ieuenctid, gwasanaethau ambiwlans a llawer mwy er mwyn gallu sicrhau’r gwasanaeth a chymorth i drigolion yr ardal.
Nododd Alun Price, Cadeirydd Partneriaeth Penllyn: “Ffurfiwyd y Bartneriaeth oherwydd pryder cyffredinol yn yr ardal bod gwasanaethau'n cael eu darparu o bell - neu ddim o gwbl - ac felly ddim yn cyrraedd anghenion y defnyddwyr. Cred Partneriaeth Penllyn bod gwasanaethau'n cael eu darparu orau ar lefel leol hyd y bo'n ymarferol bosib, ac ein bwriad yw gwireddu hyn mewn nifer o feysydd a chyda cynifer o asiantaethau â phosib.”
Bydd y prosiect yn cynorthwyo’r gymuned i sicrhau lleoliad addas ar gyfer sicrhau presenoldeb y gwasanaethau hyn yn yr ardal.
DINAS MAWDDWY
Dywedodd Elwyn Jones, Cadeirydd Grwp Adfywio Dinas Mawddwy y bydd y ddwy flynedd nesaf yn amser cyffrous i Ddinas Mawddwy, ac ychwanegodd Arfon Hughes, Ysgrifennydd y grŵp adfywio: “Rydym yn falch iawn ein bod fel cymuned wedi llwyddo i sicrhau cymorth ymarferol ynghyd a’r cyfle i geisio am gymorth ariannol hyd at ryw £100,000 a fydd yn cynorthwyo ardal Dinas Mawddwy i ddatblygu menter gymunedol fydd yn sicrhau incwm sefydlog i’r gymuned.”
Nododd y Cynghorydd John Pughe Roberts sy’n cynrychioli’r ardal ar Gyngor Gwynedd: “Mae gennym griw brwdfrydig sydd yn awyddus iawn i sicrhau cynaliadwyedd yr ardal, ynghyd a nifer o syniadau. Bydd cael cymorth drwy’r prosiect i flaenoriaethu a datblygu syniadau sydd am fod yn realistig a hyfyw i’w cyflawni yn sicr o gynyddu capasiti’r gymuned ar gyfer y dyfodol.”
Bydd lansiadau lleol ym mhob un o’r pum cymuned yn cael eu cynnal yn gynnar yn y flwyddyn newydd - edrychwch allan hefyd am ddiweddariad ynghylch prosiectau eich cymuned yn y papurau lleol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddog Prosiect, Sioned Morgan ar 01286 679628 neu SionedMorgan@gwynedd.gov.uk