Twll yn y ffordd
Rhowch wybod i ni am dwll yn wyneb y ffordd drwy gwblhau’r ffurflen adrodd ar-lein:
Golau stryd
Os oes golau stryd yn achosi perygl oherwydd fod gwifrau trydanol yn y golwg, cysylltwch â ni ar unwaith drwy ffonio 01766 771000.
I adrodd am olau stryd sydd ddim yn gweithio, e.e. y golau ddim yn dod ymlaen / ymlaen drwy’r amser, cwblhewch y ffurflen adrodd ar-lein:
Palmant wedi malu
Os oes palmant wedi malu ac yn achosi perygl o faglu, rhowch wybod i ni drwy gwblhau’r ffurflen adrodd ar-lein:
Glendid stryd / toiledau cyhoeddus
Os am adrodd am broblem glendid ar y stryd neu broblem gyda thoiled cyhoeddus, ewch i’r adran Cadw Gwynedd yn Daclus.
Unrhyw broblem arall gyda wyneb y ffordd / ochr y ffordd
I adrodd am broblemau gydag unrhyw un o'r canlynol sy’n effeithio ar wyneb y ffordd neu ar ochr y ffordd:
- pyllau dŵr
- mwd / baw / dail ar y ffordd sy'n beryglus
- hylif wedi ei golli
- coed neu ganghennau wedi syrthio ar y ffordd
- arwyddion ffyrdd diffygiol (ag eithrio arwyddion brown twristiaeth ble dylech gysylltu â'r atyniad y mae'r arwydd yn cyfeirio ato)
- problem gyda wal ar ochr y ffordd neu wal sy’n cynnal y ffordd
- damwain ar y ffordd (er mwyn i ni allu glanhau unrhyw lanast a all fod yn beryglus)
- anifail wedi marw ar y ffordd
- gwaith haearn
- goleuadau traffig parhaol (gyda goleuadau traffig dros dro - ffoniwch y rhif ffôn sydd ar yr arwydd ger y goleuadau traffig)
- ffens / rhwystrau diogelwch
- marciau ffordd wedi gwisgo / ddim yn eglur
- tirlithriad
- unrhyw broblem gyda phontydd
- llygaid cath sy’n rhydd ar y ffordd
- unrhyw broblem gyda gwli
neu unrhyw broblem arall sy’n effeithio ar y wyneb y ffordd neu ar ochr y ffordd, cysylltwch â ni ar 01766 771000.