Ar lanw isel, mae oddeutu 250 hectar o gynefin mwd a thywod yn dod i'r golwg yn y bae, sydd yn gynefin bwydo pwysig i nifer o rywogaethau o adar cynhenid a mudol. Yn ystod y gaeaf, mae'r llecynnau rhynglanwol, ynghyd â'r morfa heli yn ne'r bae, yn dod yn fyw gydag amrywiaeth o adar dŵr ac adar hirgoes. Ceir yma heidiau mawr o dros 5,000 o chwiwell, nifer o hwyaid yr eithin, piod môr, gylfinirod a chornchwiglod, ynghyd â phibydd y mawn, pibydd coesgoch, ac os yn lwcus, ambell bibydd coeswyrdd a chwtiaid aur.
Ceir cuddfan adar a safle picnic wedi eu lleoli ar ochr ddwyreiniol y bae. Gallwch gyrraedd Y Foryd wrth ddilyn yr arwyddion brown a gwyn (llun hwyaden) o'r A487 i'r de o Gaernarfon, neu oddi ar yr A499 ger Llandwrog.
I ddefnyddio'r guddfan adar, cysylltwch gyda'r Uned Gefn Gwlad a Mynediad ar 01286 679 281.