Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Neuadd Penrhyn ym Mangor fel rhan o Brosiect Anweithgaredd Economaidd Môn Menai, yn tynnu sylw at amrywiaeth o swyddi siop, warws a rheoli a gweinyddu a fydd ar gael yn y siop The Range, sy’n agor ar Ffordd Caernarfon ar gyrion y ddinas.
Cyngor Gwynedd yw un o’r partneriaid sy’n cefnogi Prosiect Anweithgaredd Economaidd Môn Menai.
Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, sy’n arwain ar yr Economi a Chymuned yn y Cyngor wrth ei fodd o weld y ffair recriwtio’n cael ei chynnal ym Mangor:
“Fel Cyngor, rydan ni wedi ymrwymo i gydweithio’n agos efo’n partneriaid i ddatblygu cyfleoedd newydd am swyddi o fewn y sir. Rydan ni’n benderfynol o godi gobeithion a helpu pobl i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd am waith a hyfforddiant sydd ar gael yn lleol.
“Mi wnaeth y ffair recriwtio, a gafodd ei threfnu mewn partneriaeth efo Jobcentre Plus, roi cyfle gwych i bobl leol sydd allan o waith ar hyn o bryd chwilio am gyfle i ymuno â marchnad lafur Gwynedd fel y gallan nhw ddatblygu eu sgiliau a’u profiad a chodi eu hyder.”
Mae Prosiect Anweithgaredd Economaidd Môn Menai, a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2009, yn dod ag amrywiaeth helaeth o sefydliadau ynghyd i weithio mewn partneriaeth i helpu pobl leol sy’n byw yn ardal Menai o Wynedd a Môn i ddod yn ôl i waith, hyfforddiant a gwirfoddoli.
Mae Sefydliadau sy’n rhan o Brosiect Anweithgaredd Economaidd Môn Menai yn cynnwys: Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Fôn, Jobcentre Plus, Gyrfa Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Groundwork, Medrwn Môn, Mantell Gwynedd, Cymunedau’n Gyntaf, Menter Môn, Coleg Menai a Choleg Harlech.