Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Trafnidiaeth a Strydoedd > Parcio
 
Tocyn parcio blynyddol

Drwy brynu tocyn parcio blynyddol gallwch barcio am ddim yn rhai o feysydd parcio’r Cyngor.

Mae tocyn parcio blynyddol yn costio:

  • £100 y flwyddyn i drigolion, busnesau a sefydliadau Llywodraethol Gwynedd
  • £200 y flwyddyn i drigolion, busnesau a sefydliadau Llywodraethol o’r tu allan i Wynedd

Bydd y tocyn parcio blynyddol yn eich galluogi i barcio yn rhai o feysydd parcio arhosiad hir y Cyngor am hyd at 12 awr (mewn unrhyw gyfnod o 24 awr). Gall pobl dros 60 mlwydd oed hefyd barcio yn y meysydd parcio arhosiad byr (am hyd at 2 awr mewn unrhyw gyfnod o 24 awr).

Gellir gweld rhestr o'r meysydd parcio yn y telerau ac amodau: tocyn parcio blynyddol.

Mae tocyn blynyddol yn ddilys rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth yn flynyddol.

Os na allwch ddod o hyd i ateb i'ch cwestiwn am docyn parcio blynyddol ar y dudalen hon, edrychwch ar y cwestiynau a ofynnir yn aml: tocyn parcio blynyddol.


Prynu tocyn parcio blynyddol

Er mwyn prynu tocyn parcio blynyddol, ffoniwch 01766 771000 neu lawrlwythwch y ffurflen gais. 


Adnewyddu tocyn parcio blynyddol
Mae tocyn parcio blynyddol yn ddilys rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth yn flynyddol. Byddwch yn derbyn llythyr atgoffa yn ystod mis Chwefror / Mawrth, a bydd cyfarwyddiadau yn y llythyr yn egluro sut mae adnewyddu eich tocyn.

Os na fyddwch yn derbyn llythyr am ba bynnag reswm, cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000 er mwyn adnewyddu (byddwch angen rhif eich tocyn parcio blynyddol).


Wedi colli tocyn parcio blynyddol

Os ydych wedi colli eich tocyn parcio blynyddol, cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000.  Bydd ffi o £20 er mwyn derbyn tocyn newydd


Newid manylion ar docyn parcio blynyddol

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newid i’ch manylion - er enghraifft, newid rhif cofrestru’r car neu eich cyfeiriad. Cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000.  Bydd ffi o £10 er mwyn newid y manylion.


Ymholiad parcio neu gwyn
Os nad ydych wedi dod o hyd i ateb i'ch cwestiwn ar y dudalen hon, edrychwch ar y dudalen cwestiynau a ofynnir yn aml: tocyn parcio blynyddol 

Gallwch hefyd ddefnyddio'r ffurflen ar-lein i gyflwyno ymholiad cyffredinol neu gwyn am barcio yng Ngwynedd

 


Sylwadau am y dudalen hon - Annual parking ticket

Math o sylw:



Os oes gennych chi ymholiad neu sylw cyffredinol am Gyngor Gwynedd neu am wasanaethau'r Cyngor defnyddiwch ein Ffurflen Ymholiadau.

Rhaid llenwi pob maes sydd wedi ei farcio â *




Diweddarwyd: 22/03/2013
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]