Mae budd-dal tai yn fudd-dal gwladol sydd wedi ei gynllunio i'ch cynorthwyo i dalu eich rhent os ydych ar incwm isel. Yn ddibynnol ar eich incwm a'ch amgylchiadau, gall y Cyngor gyfrannu hyd at 100% tuag at eich rhent.
Lwfans Tai Lleol
Mae'r Lwfans Tai Lleol yn ffordd o gyfrifo ceisiadau newydd ar gyfer Budd-dal Tai i denantiaid sy'n rhentu eiddo gan landlord preifat. Mae pob tenant newydd a rhai tenantiaid sydd â newidiadau yn eu hamgylchiadau ers Ebrill 2008 yn cael eu talu o dan y gyfundrefn Lwfans Tai Lleol.
Os ydych yn byw mewn eiddo i'r Cyngor neu dai cymdeithasol eraill, nid ydych yn gymwys i dderbyn Lwfans Tai Lleol.
Ar y tudalennau hyn mae gwybodaeth am Lwfans Tai Lleol ar gyfer tenantiaid a landlordiaid preifat. Cliciwch ar y penawdau ar y chwith am ragor o fanylion.
Os oes gennych gwestiynau pellach am y Lwfans Tai Lleol, cysylltwch â'r Cyngor drwy ffonio 01286 682689 neu anfonwch e-bost i LTL@gwynedd.gov.uk