Mae cefn gwlad Sir Gwynedd yn llawn potensial i unrhyw un sydd yn fodlon mentro allan. O gopaon Eryri hyd at lannau Llŷn, gwaith caled yw darganfod ardal arall yng Nghymru ac sydd iddi gymaint o amrywiaeth o dirluniau, cynefinoedd, a phethau i'w gwneud.
Mae'r tudalennau canlynol yn cofnodi safleoedd cadwriaethol mae Cyfadran Yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd yn eu rheoli trwy'r Sir. Mae'r safleoedd yma yn agored i chi trwy gydol y flwyddyn. Ceir yma hefyd wybodaeth am wasanaethau eraill gan y Gyfadran sydd yn rhan o reolaeth cefn gwlad y Sir.