Mae archifdai yng Nghaernarfon a Dolgellau.
Ceir yma fynediad ar-lein i wasanaeth Catalog Ar-lein Archifau Gwynedd, sy'n cynnwys 12,000 o dudalennau a 2,000 o ddelweddau.
Mae'r wefan hefyd yn darparu gwybodaeth am y casgliadau, y polisïau a'r prisiau, yn ogystal â mynediad i nifer o daflenni sy'n cwmpasu pynciau megis olrhain achau teuluol a hanes eich cartref.
Defnyddiwch y cysylltau ar y chwith i ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn ymwneud â'r archifau.
DALIER SYLW! Oherwydd gwaith cynnal a chadw angenrheidiol ar y lifft, bydd Archifdy Caernarfon ar gau i’r cyhoedd yn ystod mis Mehefin 2008.