Tai ar Daith: Digwyddiadau Galw-i-mewn Tai
Diddordeb mewn gwybod mwy am gynlluniau tai Cyngor Gwynedd a’i bartneriaid? Eisiau gwybod pa help sydd ar gael i ddod o hyd i gartref addas? Dewch i ymuno â ni am un o’n sesiynau Tai ar Daith.
Pwrpas y digwyddiadau hyn ydi codi ymwybyddiaeth am yr amryw gynlluniau tai sydd ar gael i sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartrefi addas o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella eu hansawdd bywyd.
Beth yw Tai ar Daith?
Mae digwyddiadau Tai ar Daith yn cael eu trefnu gan Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd ac yn cael eu cynnal yng Nghaernarfon, Pwllheli a Dolgellau dros yr wythnosau nesaf. Yn y sesiynau galw-i-mewn anffurfiol hyn, gall unrhyw un ddod i ofyn cwestiynau a thrafod yn uniongyrchol gyda swyddogion arbenigol o’r Cyngor a mudiadau partner.
Pam mynychu?
Galwch draw i:
- ddysgu mwy am y cynlluniau tai amrywiol sydd ar gael i’ch helpu chi drwy’r Cynllun Gweithredu Tai’r Cyngor, gan gynnwys grantiau tai gwag a benthyciadau i brynu cartref.
- ddeall beth mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn ei wneud i gynyddu'r cyflenwad tai, atal digartrefedd, a lleddfu effeithiau'r argyfwng costau byw yng Ngwynedd.
- gyfarfod wyneb yn wyneb â swyddogion y Cyngor a’i bartneriaid i drafod eich anghenion penodol – os oes angen help arnoch i lenwi ffurflen gais neu os ydych chi eisiau trafod cynlluniau tai cyffredinol y Cyngor, rydym yma i helpu.
- gael mynediad at gyfoeth o adnoddau a chyngor arbenigol sy’n ymwneud â’r maes tai.
Pwy sydd am fod yno?
Mae timau ar draws adrannau’r Cyngor am fod yn bresennol, gan gynnwys:
- Prosiectau Tai
- Opsiynau Tai
- Cynllunio
- Digartrefedd
- Ynni
- Cymorth Costau Byw
- Gwybodaeth i Deuluoedd
Bydd partneriaid tai'r Cyngor hefyd yn bresennol, gan gynnwys Cymdeithasau Tai, Arfor a phartneriaid sy’n ymwneud â phrosiectau tai mewn ardaloedd penodol.
I bwy mae’r digwyddiadau hyn?
Mae digwyddiadau Tai ar Daith yn agored i bawb. P'un a ydych angen cartref neu eisiau gwybod mwy am gynlluniau tai yn y Sir, dewch i ymuno â ni.
Digwyddiadau i ddod:
- CAERNARFON
Dyddiad: 18 Ebrill 2024
Amser: 3pm - 6,30pm
Lleoliad: Byw’n Iach Arfon, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1DU
- PWLLHELI
Dyddiad: 2 Mai 2024
Amser: 4.30pm - 7pm
Lleoliad: Neuadd Ysgol Glan y Môr, Ffordd Caerdydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5NU
- DOLGELLAU
Dyddiad: 16 Mai 2024
Amser: 3pm - 6.30pm
Lleoliad: Tŷ Siamas, Sgwâr Eldon, Dolgellau, LL40 1PY
Cysylltu â ni
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni: tai@gwynedd@llyw.cymru